Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
14 Gorffennaf 2014
CLA418 - Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn cydgrynhoi darpariaethau presennol mewn perthynas â safleoedd cartrefi symudol preswyl, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r modd y rheolir ac y cynhelir safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru.
Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Rheolau Safle”) wedi eu gwneud o dan Ddeddf 2013 ac yn cyflwyno seiliau newydd ar gyfer ceisiadau i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (“y tribiwnlys”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 (“y Prif Reoliadau”) yng ngoleuni Deddf 2013 a’r Rheoliadau Rheolau Safle. Diwygir y Prif Reoliadau i ddiweddaru cyfeiriadau at Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 fel eu bod yn cyfeirio at ddarpariaeth gyfatebol yn Neddf 2013. Yn ychwanegol, gwneir darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau newydd y caniateir eu gwneud i’r tribiwnlys o dan Ddeddf 2013 a’r Rheoliadau Rheolau Safle.
CLA419
- Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio)
(Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (‘Gorchymyn 2006’).
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cynnydd ar y ffioedd a bennir yn y Gorchymyn 2006 fel a ganlyn:
(a) ffioedd ar gyfer y gwasanaethau mewn perthynas â cheisiadau am dystysgrifau gan ystod o 4% i 52% (erthygl 2 (3)) a
(b) ffioedd ar gyfer gwasanaethau cyn-allforio gan 19% (erthygl 2 (4)).
CLA420 - Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am
Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y ddogfen y
mae’n ofynnol iddi gyd-fynd â’r hysbysiad ar
adolygu ffi llain (a gyflwynir o dan baragraff 17(3) neu (8) (b) o
Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru)
2013) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi llain.
CLA421
- Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru)
2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer gwerthu a rhoi cartrefi symudol yn rhoddion, a phennu cytundebau o dan y darpariaethau yn Rhan 4 o’r Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
CLA422 - Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio a dileu rheolau safle, yn rhagnodi’r materion y gall rheolau safle neu na all rheolau safle ymwneud â hwy, a chaniatàu hawliau apêl mewn perthynas â’r materion hyn, o dan adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 .
CLA423
– Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru)
(Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn darparu ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2013.
CLA424 - Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Cyn i berson ymrwymo i gytundeb i feddiannu cartref symudol fel prif breswylfa, darperir Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 bod rhaid i berchennog safle roi datganiad ysgrifenedig i ddarpar feddiannydd.
Mae’r rheoliadau hyn yn pennu bod rhaid i’r datganiad ysgrifenedig gynnwys gwybodaeth benodol, sef:
CLA425 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae diwygiadau a wnaed i adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Newidiadau Amherthnasol a Chywiro Gwallau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1770 (Cy.182)) yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wneud newidiadau amherthnasol i ganiatadau cynllunio sy’n ymwneud â thir yn eu hardal.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110)) i wneud darpariaeth ynglŷn â’r ffurf a’r modd y gwneir ceisiadau. Mae’r Gorchymyn hefyd yn gosod gofynion ar awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn ag ymgynghori a chyhoeddusrwydd.
CLA426 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)).
Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).